Cyrhaeddodd y gyfrol hon yn barsel destlus ar ddesg yr adolygydd, gydag amlen felen a rhuban gwyrdd am y llyfryn, a cherdyn cyfeirio anrheg yn dal gafael yn y rhuban. Cyfrol wedi'i chyflwyno'n berffaith fel anrheg Nadolig, felly, yn enwedig i'r rhai ohonom sy'n orgyfarwydd a'r brys noswyl Nadolig i lapio'r anrhegion olaf, gan regi'r selotep a'r siswrn! Cyfrol fer o ddwy gerdd ar bymtheg yw hon, a gyhoeddir ar y cyd gan ddau o feirdd mwyaf adnabyddus Caerfyrddin; dau brifardd a dau gyn-fardd plant Cymru hefyd, ac adlewyrchir eu profiad eang a'u dawn yng ngherddi'r gyfrol hon. Ar yr olwg gyntaf, dyma gyfrol seml ei chrefft a'i harddull, ond yn nodweddiadol o grefft y ddau fardd, buan y down i deimlo rhywbeth dyfnach yng ngwead y cerddi. Mae pob cerdd, oddigerth un awdl fer, yn gerddi mydr ac odl, ac mae llawer ohonynt yn ymdebygu'n fawr i garolau Nadolig, a chan hynny maent yn ddarllenadwy i blant a phobl ifanc, ond mae yna ddigon o gig ar y twrci i'r oedolion darllengar gnoi arno hefyd. Dyma gerddi sydd oll yn ceisio dadansoddi'r peth annelwig, anesboniadwy hwnnw sydd ynghlwm wrth y Nadolig, yn enwedig trwy lygaid pefriog plentyn. Gan gyfosod y Nadolig cyfoes a'r Nadolig cyntaf un, mae'r gyfrol yn gofyn: 'Ai bore fel hyn oedd hi ym Methlem ddwy fil o flynyddoedd yn ol?' (TDJ). Mae'r arddull yn adlewyrchu'r diniweidrwydd hwnnw a brofwyd y Nadolig cyntaf un, ac yn ceisio ailgyffroi'r baban hollbresennol yn ein Nadolig byrhoedlog ni 'am fod gwaith y Nadolig yn anodd, yn ormod o waith i un dydd' (MH). Ond wedi hynny o ddadansoddiad, does wirioneddol ddim angen difrifoli yn ormodol yn ei gylch, gan mai cyfrol yw hon y gellir ei mwynhau ar sawl lefel. Mae'r awdl fer 'Mair' yn nodweddiadol o ganu caeth twyllodrus o rwydd Tudur Dylan Jones, a llinellau trawiadol megis 'a'i chnawd yn llawn ochneidiau' yn aros yn y cof. Mae 'Drama'r Geni' yn gerdd ysgafnach am fachgen mewn ysgol gynradd sy'n ysu am gael bod yn Joseff ac am ferch arbennig i fod yn Mair, ac mae'n hoe thematig a groesewir. Mae cerdd olaf y gyfrol gan Mererid Hopwood yn disgleirio, a byddai'n hawlio ei lle mewn unrhyw gyfrol gwerth ei halen. Cyfrol seml ond diffuant sydd yn ddeunydd darllen perffaith i blant, i rieni ei darllen i'w plant, ac i'r rhieni eu hunain. Dylai pawb obeithio bod Gwr Doeth yn rhywle am adael hon yn yr hosan erbyn bore Nadolig. -- Osian Rhys Jones @ www.gwales.com