Panier
Livraison gratuite
Nous sommes Neutres au Carbone

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad J. Elwyn Hughes

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad par J. Elwyn Hughes

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad J. Elwyn Hughes


€32.00
État - Très bon état
Disponible en seulement 1 exemplaire(s)

Résumé

A study of life in Caradog Prichard's popular novel, Un Nos Ola Leuad, portraying the characters of Bethesda and the Ogwen valley. It portrays life and society, buildings and places as they were in Caradog Prichard's days. Reprint; first published in 2008.

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad Résumé

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad J. Elwyn Hughes

A study of life in Caradog Prichard's popular novel, Un Nos Ola Leuad, portraying the characters of Bethesda and the Ogwen valley. It portrays life and society, buildings and places as they were in Caradog Prichard's days. Reprint; first published in 2008.

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad Avis

Ym mis Mai 2005, cyhoeddodd J. Elwyn Hughes Byd a Bywyd Caradog Prichard, cyfrol a gafodd groeso mor frwd nes gorfod ei hailargraffu o fewn ychydig wythnosau. Yn y gyfrol honno, cyfeiriwyd at nofel fawr Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, gan nodi mai yn Nyffryn Ogwen ei blentyndod y cafodd Caradog ei ysbrydoliaeth a bod rhannau helaeth o'r gwaith wedi eu seilio ar ddigwyddiadau, pobl a llefydd gwirioneddol a hynny er gwaethaf yr honiad a wna'r awdur yn ei 'Nodyn' ar ddechrau'r nofel:
'Er bod brith-gofion bore oes yn sail i ambell ddigwyddiad yma, ystumiwyd cymaint gan amser a dychymyg fel nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag unrhyw berson yn yr un o'r cymeriadau, ac y mae 'eu dydd yn gelwydd i gyd'...
Fe wyddom erbyn hyn, wrth gwrs, nad oedd 'eu dydd yn gelwydd i gyd'. Darllenwch y gyfrol hon i gael gwybod i ba raddau y seiliwyd rhai o'r cymeriadau a'r llefydd yn y nofel ar bobl a mannau a go iawn yn Nyffryn Ogwen. Eir a chi ar daith ddarluniadol drwy Fethesda i weld siopau, adeiladau a llefydd fel yr oeddent yn nyddiau cynnar Caradog yn ei ardal enedigol a chewch weld lluniau rhai o'r cymeriadau yn union fel yr adwaenai Caradog Prichard hwy, ynghyd a hanes difyr a diddorol sawl un ohonynt.
Fel Byd a Bywyd Caradog Prichard, mae Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yr un mor ddarllenadwy a difyr. Dyma gyfrol arbennig o ddadlennol a fydd o ddiddordeb i Gymry Cymraeg ymhobman ac o gymorth neilltuol i ddisgyblion a myfyrwyr wrth iddynt astudio Un Nos Ola Leuad ar gyfer eu gwahanol arholiadau.
******************************************
Dyma ailargraffiad o gyfrol ddifyr a gyhoeddwyd gyntaf yn 2008. Maen bwrw golwg ar gefndir un on hawduron enwocaf, sef Caradog Prichard ac ar y digwyddiadau, y cymeriadau ar ardal a fu yn amlwg yn ddylanwad cryf ar un o nofelau mwyaf arwyddocaol yr iaith Gymraeg, sef Un Nos Ola Leuad, a gyhoeddwyd ganddo yn 1961.
Maer gyfrol swmpus hon yn cynnig taith darluniadol o gymdeithas, llefydd a chymeriadau Bethesda a Dyffryn Ogwen fel yr oeddynt yn nyddiau plentyndod a llencyndod Caradog Prichard. Dengys yr awdur adnabyddiaeth arbennig o ardal a phobl Dyffryn Ogwen, gan ganolbwyntion bennaf ar gymeriadau y gymdeithas honno.
Cyfrol gan un syn awdurdod ar un on hawduron enwocaf. Cofnod gwerthfawr o hanes cymdeithasol Dyffryn Ogwen. Cyfrol a fydd o ddiddordeb i Gymry llengar ym mhobman a hefyd o fudd i ddisgyblion a myfyrwyr syn astudio Un Nos Ola Leuad. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Er bod Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yn gyfrol gyflawn ynddii hun, maen deg dweud ei bod hefyd yn chwaer-gyfrol, ac, ar ryw ystyr, hyd yn oed yn ddilyniant i Byd a Bywyd Caradog Prichard a gyhoeddwyd dair blynedd yn ol. Ychydig o ofod a neilltuwyd i fynd ir afael a chefndir y nofel yn y fan honno, ac er mai prin y byddair darllenydd wedi sylwi ar y diffyg mewn cyfrol gynhwysfawr 198 o dudalennau, fe honnar awdur mai ceisio gwneud iawn am hynny a wnaeth y tro hwn. Yma, fe ganolbwyntir yn gyfan gwbl ar Un Nos Ola Leuad ei lleoliadau, ei chymeriadau ai digwyddiadau, a chynseiliaur rheini yn y byd go iawn. Fel y dywed J. Elwyn Hughes yn ei Ragarweiniad: Yn Nyffryn Ogwen ei blentyndod y cafodd Caradog ei ysbrydoliaeth ac y mae rhannau helaeth or gwaith wedi ei seilio ar ddigwyddiadau, pobl a llefydd gwirioneddol yn y fro honno, a hynny er gwaethaf yr honiad yn Nodyn yr Awdur ar ddechraur nofel: Er bod brith-gofion bore oes yn sail i ambell ddigwyddiad yma, ystumiwyd cymaint gan amser a dychymyg fel nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag unrhyw berson yn yr un or cymeriadau, ac y mae eu dydd yn gelwydd i gyd. Eir ati, yn gwbl systematig, i gyfosod, yn gyntaf Lefydd ac Adeiladau, yna Bobl a Chymeriadau ac yna ddigwyddiadau penodol au cymheiriaid hanesyddol. Llwyddwyd i gywain casgliad rhyfeddol o ddarluniau a ffotograffau i gyd-fynd ar cyfan rhai wedi ymddangos or blaen yn y gyfrol flaenorol, ond y rhan fwyaf o ddigon yn gwbl newydd. Mae trwch y gyfrol yn canolbwyntio ar y cymeriadau, a dyma lle y mae hyd a lled ymchwil J. Elwyn Hughes yn dod ir amlwg, ynghyd ai adnabyddiaeth o bobl ei ardal. Cyfeiriaf yn benodol at Now Gwas Gorlan, Robin Gwas Bach Gorlan a Now Bach Glo, tri chymeriad syn ymgorffori elfennau o gymeriad Wil Ritsh (y cynhwyswyd rhai oi ffraethebau yn y gyfrol Glywsoch Chi Hon? gan Fudiad Adfer yn 1978, ond na chofnodwyd hanes ei fywyd mor gyflawn cyn hyn), ar bennod honno ar Mister Vinsent Bank ai Wraig au Hogyn Bach, Cyril, y mae hiwmor yn byrlymu drwyddi. Cefais flas arbennig ar y rhain, ac, mewn ffordd wahanol, ar y bennod ar Defi Difas Snowdon View, lle y cynhwysir dau lythyr yn llaw T. Rowland Hughes yn holir gwr a fun gynsail i Defi Difas, sef David D. Evans, am gefndir y Streic Fawr wrth iddo baratoi i ysgrifennu Chwalfa. Dyma gymeriadau y bun golled enfawr im cenhedlaeth i beidio a chael eu hadnabod, a dyma gymwynas fawr J. Elwyn Hughes yn y gyfrol hon. Oherwydd y maen fwy na chyfeirlyfr iw gael wrth eich penelin wrth i chi fodio drwy Un Nos Ola Leuad; maen gofnod tu hwnt o werthfawr o hanes cymdeithasol, ac yn diogelu straeon am bobl y gellid yn hawdd fod wedi eu hanghofio cyn pen cenhedlaeth eto. Erbyn i ni droi ir drydedd adran, cawn mai dim ond un digwyddiad sydd yma, mewn gwirionedd, sef hanes y gem bel-droed gythryblus rhwng yr Holyhead Railway Institute Reserves ar Bethesda Comrades neur Cybi Wanderers a Celts ni, fel yu gelwir yn y nofel. Daeth achlysuron cymdeithasol eraill, fel yr orymdaith i anrhydeddur milwr a enillodd fedal y D.C.M., dadorchuddior gofgolofn ar derfyn y rhyfel, ac ymweliad Cor y Sowth, eisoes dan y chwyddwydr wrth edrych ar leoliadau a chymeriadau, ar ffaith honnon tystio i anawsterau cynllunio astudiaeth or fath, lle y mae ailadrodd a chroesgyfeirio bron yn anorfod. Ond hanes yr ornest bel-droed yw pinacl y gyfrol, ac roedd yn werth neilltuo lle iw thrafod ar ei phen ei hun. A hithaun ymestyn dros 326 o dudalennau, byddai hon wedi gwneud cyfrol clawr caled. Ac, eto, cyfrol boblogaidd, werthadwy, y bwriadwyd iddi fod. Ar sail tystiolaeth y lansiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda, maen bendant wedi llwyddo yn hynny o beth. -- Gwen Gruffudd @ www.gwales.com

Informations supplémentaires

GOR005718731
9781900437998
1900437996
Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad J. Elwyn Hughes
Occasion - Très bon état
Broché
Cyhoeddiadau Barddas
2012-08-30
326
N/A
La photo du livre est présentée à titre d'illustration uniquement. La reliure, la couverture ou l'édition réelle peuvent varier.
Il s'agit d'un livre d'occasion - par conséquent, il a été lu par quelqu'un d'autre et il présente des signes d'usure et d'utilisation antérieure. Dans l'ensemble, nous nous attendons à ce qu'il soit en très bon état, mais si vous n'êtes pas entièrement satisfait, veuillez prendre contact avec nous.