Roedd gan Sian Northey fwriad penodol wrth fwrw ati i lunio'r gyfrol hon, sef yn gyntaf, creu cyfrol o straeon oedd yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol, ac yn ail, llunio straeon am bobl. Ond os mai byd hanes yw'r gwir a'i sbardunodd i ysgrifennu, ffrwyth ei dychymyg disglair iawn yw Celwydd Oll. Ond does dim angen i chi fod yn hanesydd o fath yn y byd i allu mwynhau'r perl hwn. Dyma gyfrol foethus o ran y modd cysurlon a thawel y mae'n denu'r darllenydd i mewn i bob stori. Awdur agos-atoch sydd yma o'r cychwyn cyntaf, ac er ei bod yn tynnu mantell amryw o gymeriadau gwahanol amdani a'i bod yn eich llorio'n llwyr gyda'r lleoliadau a'r troeon yn y straeon gwahanol, mae ei dawn dweud gynnil a'i llais tyner yn gysur drwyddi draw. Cefndir digon brawychus sydd i'r stori gyntaf, 'Blodau man y morfa', sy'n adrodd hanes trasiedi gymdeithasol erchyll yn ardal Penrhyndeudraeth, ochr yn ochr a thrasiedi bersonol Menna a'i gwr - trasiedi'r dioddef tawel a fu'n cyniwair rhyngddyn nhw ers blynyddoedd. Mae'r ugain o straeon eraill yr un mor afaelgar, wrth son am anghyfiawnder, rhagrith, twyll a cham, dioddefaint a gwallgofrwydd rhyfel a'r byd o'n cwmpas. Trasiedi rhyfel sydd wrth wraidd y stori gyfareddol 'Sawl math o fam sydd?' sydd, ar yr olwg gyntaf, yn cymharu profiadau cyferbyniol ond hynod stoicaidd dwy fam sydd a'u meibion yn brwydro yn y rhyfel ond sydd, yn y bon, yn tanlinellu'r dioddefaint eithafol y bu'n rhaid i gymaint o deuluoedd ei wynebu yn sgil hynny. A does dim geiriau i gyfleu'r dioddefaint a ddisgrifir yn y stori 'Geiriau', sydd eto'n mynd a ni i fyd y Rhyfel Byd Cyntaf a brad crefyddwyr yr oes a lwyddodd i sicrhau fod cynifer o'n bechgyn ifanc ni'n ymuno a'r brwydro. Ond er mai digwyddiadau o fyd hanes yw sbardun pob un o'r straeon yn y gyfrol hon, mae'n rhyfeddol mor berthnasol y mae cynifer ohonyn nhw o safbwynt ein bywydau ni heddiw. Ymdrinnir a thrais a thrawsrywedd, gwleidyddiaeth, hawliau sifil a salwch meddwl, ond eto'n gynnil iawn, yn hytrach nag mewn modd ymwthiol. Ac er mai neges waelodol yr awdur, am wn i, yw nad ydyn ni wedi dysgu oddi wrth gamgymeriadau'r gorffennol, mae'r rebel ynddi'n ceisio ein hannog i ystyried sefyllfa'r byd o'n cwmpas a chodi llais, yn hytrach na dioddef yn dawel, fel y gwnaeth cynifer dros y canrifoedd ym mhob cwr o'r byd. Does bosib y gall popeth fod yn gelwydd oll? Heb os, mae Sian Northey yn awdures feistrolgar a chrefftus. Dyma gyfrol hynod ddarllenadwy a phwerus sy'n haeddu ei lle ar unrhyw silff lyfrau. -- Sioned Lleinau @ www.gwales.com