Rhaid inni fod yn ddiolchgar unwaith eto i Elin Meek a Valeriane Leblond am eu gwaith bendigedig yn yr atlas darluniadol hwn, ac am gyflwyno Cymru i Gymry ifanc, a hynny mewn ffordd mor unigryw a ffres. Mae Elin Meek bellach yn arbenigwraig ar ymchwilio a throsglwyddo ffeithiau o bob math yn llwyddiannus mewn llyfrau plant, ac mae Cymru ar y Map yn bluen arall yn ei het. Maer llyfr yn llawn dop o wybodaeth am hanes, daearyddiaeth, enwogion, byd natur, diwylliant, y celfyddydau, gwleidyddiaeth, bwyd, chwedlau, pensaerniaeth a chwaraeon Cymru, a llawer mwy. Bydd sawl oedolyn hefyd yn siwr o ddysgu sawl peth newydd am eu gwlad. Wyddech chi mai yn Wrecsam y mae canran uchaf y plant dan 5 oed? Maer ffeithiau difyr yn cynnwys son am fynachod Ynys Byr syn gwneud persawr a siocled iw gwerthu i dwristiaid ac am y fantell aur or Oes Efydd a ganfuwyd ger y Wyddgrug. Rydych wedi clywed, efallai, am chwedl Morwyn Llyn y Fan Fach, ond tybed ydych chin gwybod yn union ymhle y maer llyn hwnnw ar y map? Mawr yw ein dyled i Valeriane Leblond hefyd, a hithau yn flaenorol wedi cyflwyno chwedlaur Mabinogion i blant drwy ei harlunwaith lliwgar a bywiog. Yma eto cawn fwynhau ei darluniau manwl ond syml, syn ychwanegu cymaint at y ffeithiau lu. Maer dylunydd Tanwen Haf hithau wedi dod ar cyfan at ei gilydd i greu llyfr rhwydd a difyr iawn iw ddarllen. Mae hwn yn llyfr clawr caled a mawr ei faint, ar tudalennau dwbl yn cyflwyno Cymru yn ol ei siroedd (yn ogystal a rhai oi hen siroedd traddodiadol megis Meirionnydd a Sir Drefaldwyn). Bydd eich sir chi yn ddigon cyfarwydd i chi, maen siwr, ond beth am y gweddill? Gellir pori yn hamddenol drwyr llyfr er pleser, neu ei ddefnyddio fel arf dysgu ac yn sail i ymchwil pellach. Maer tudalennau yn fwrlwm o ddarluniau a ffeithiau diddorol, ar cyfan wedii osod ar fap o Gymru, o ddyddiadau sefydlur parciau cenedlaethol, i leoliad y Gwylliaid Cochion a man genir cynllunydd ffasiwn Julien Macdonald. Mae rhywbeth yma at ddant pawb, a bydd gan bob darllenydd ei farn, maen siwr, ynghylch pa ffeithiau sydd wediu cynnwys (hoffwn i, er enghraifft, petai cyfeiriad at Borthaethwy fel cartref y rhaglen deledu Rownd a Rownd) ond ar y cyfan mae ffeithiau oesol yma syn ein helpu i ddeall, gwerthfawrogi a charu ein gwlad hyd yn oed yn fwy. Yn wir, gall hwn fod yn adnodd gwerthfawr i drefnu eich gwyliau o gyflwynor ardal ai hanes ir plant a rhestr wirio i chithau o bopeth pwysig sydd iw weld mewn ardal! I gyd-fynd ar llyfr gwybodaeth hwn, ceir hefyd Llyfr Cwis syn fach ac yn ysgafn i deithio gyda chi, yn ogystal a Llyfr Gweithgareddau syn llawn posau, lluniau iw lliwio ac ati. -- Angharad Williams @ www.gwales.com