Cart
Free Shipping in Ireland
Proud to be B-Corp

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Englyn Alan Llwyd

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Englyn By Alan Llwyd

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Englyn by Alan Llwyd


€17.99
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

This volume institutes a new series, 'Sut i Greu' ('How to Create'). There are six chapters in this volume, all relating to the art of writing 'englyn' stanzas. It is intended to provide practical and useful guide to those who are experienced with this medium, as well as the less experienced.

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Englyn Summary

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Englyn by Alan Llwyd

This volume institutes a new series, 'Sut i Greu' ('How to Create'). There are six chapters in this volume, all relating to the art of writing 'englyn' stanzas. It is intended to provide practical and useful guide to those who are experienced with this medium, as well as the less experienced.

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Englyn Reviews

Llawlyfr bychan ydi hwn, i bob pwrpas, ar cyntaf mewn cyfres o lyfrynnau a fydd yn ceisio rhoi awduron a beirdd Cymru ar ben ffordd mewn amryw feysydd. Maen ymddangos mair bwriad ydi cyhoeddi canllawiau maes o law ar gyfer creu pob math o weithiau llenyddol, o gywyddau i awdlau, o straeon byrion i nofelau, a hynny dan arweiniad rhai or meistri. Yr englyn unodl union syn cael ei ddatgymalu yn y gyfrol hon, a phwy well in tywys hyd y daith nag Alan Llwyd, syn gwybod popeth sydd iw wybod am y mesur bach rhyfeddol hwn, a mwy. Maer awdur yn pwysleisio mai llyfr sydd yma i englynwyr profiadol a dibrofiad fel ei gilydd, ac mi fyddwn in cyd-fynd a hynny. Mae yma ddigon, dybiwn i, i agor llygaid y cywion beirdd a digon i ddiddorir rheini sydd wedi bod yn ymhel ar grefft ers tro byd. Serch hynny, maen rhaid bod yn weddol gyfarwydd ar cynganeddion i werthfawrogir gyfrol iw heithaf, ac maer awdur, chwarae teg iddo, yn datgan hynnyn glir ar y dechrau. Yn y bon, yr hyn y mae Alan Llwyd yn ei wneud yn y llyfryn drwyddo draw ydi trafod rhinweddau, patrymau, a hanfodion englynion da ac yn sgil hynny, yr hyn syn creu englynion digon tila yn y fargen. Maen deg dweud ei fod on dibynnun helaeth ar ddyfynnu hen feirniadaethau eisteddfodol ac englynion dirifedi er mwyn cynnal y cyfan, ond gwneud hynny y mae o i bwysleisioi bwynt ac i esbonioi ddamcaniaethaun glir. Mae hynnyn rhoi sail iddo allu dangos, er enghraifft, pam nad yw englyn crefftus o anghenraid bob tron englyn da, a pham fod gwir gelfyddyd yn gallu rhychwantur canrifoedd. Un or pethau y mwynheais i fwyaf am y gyfrol oedd yr ymarferion syn ymddangos mewn sawl un or penodau, ac yn fwy na hynny, y modd y mae Alan Llwyd yn cyflwyno gwahanol englynion neun chwarae a sawl fersiwn or un englyn cyn ein cymell ni i benderfynu pa un ydir gorau. Ond peidiwch da chi a ffafrior englyn anghywir maer eglurhad amlwg syn dilyn yn sicr och rhoi chi yn eich lle! Pwysigrwydd twtio a thrwsio, amynedd a dyfalbarhad, a pheidio a bodloni ar y cynnig cyntaf ydir wers syn cael ei phwysleisio amlaf. Mi allai sawl un o englynwyr Cymru, ar adolygydd hwn yn eu plith, wneud yn waeth na dilyn y cyngor hwnnw. Yn y bennod olaf, maer awdur yn mynd ati i greu dau englyn oi ben ai bastwn ei hun ac maer modd y maen rhaffur llinellau ac yn llafurio ac yn ailweithior patrwm dro ar ol tro yn dysgu sut mae chwilio am berffeithrwydd. Maer bennod hon hefyd yn bwrw goleuni mewn ffordd ymarferol ar holl bosibiliadau a hyblygrwydd y gynghanedd pan fydd honno yn nwylo gwir bencerdd. Wn i ddim ai pawb a fyddain cytuno ag Alan Llwyd fod yna un math o chwaeth syn oesol ei hapel a honnon tra-arglwyddiaethu ar bob chwaeth bersonol. Wn i ddim chwaith ai pawb a fyddain gyfforddus ai safbwyntiau cwbl ddeddfol a digwestiwn ynghylch yr hyn syn creu englyn da ar hyn syn creu englyn gwael. Ond rydw in edrych ymlaen yn barod at y cyhoeddiad nesaf yn y gyfres hon. Os bydd hwnnw mor ddifyr ar cyntaf, mae pethaun argoelin dda. -- Rhys Iorwerth @ www.gwales.com

Additional information

GOR008068037
9781906396299
1906396299
Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Englyn by Alan Llwyd
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
2010-06-03
116
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Englyn