Cart
Free Shipping in the UK
Proud to be B-Corp

Gwawrio Tegwen Bruce-Deans

Gwawrio By Tegwen Bruce-Deans

Gwawrio by Tegwen Bruce-Deans


£7.19
Condition - New
5 in stock

Summary

A volume of poetry by a new poet, Tegwen Bruce-Deans. The poems discuss nature, people, relationships and much more. Tegwen is part of the current, daring poetry scene and reveals a mature voice in her first volume.

Gwawrio Summary

Gwawrio by Tegwen Bruce-Deans

A volume of poetry by a new poet, Tegwen Bruce-Deans. The poems discuss nature, people, relationships and much more. Tegwen is part of the current, daring poetry scene and reveals a mature voice in her first volume.

Gwawrio Reviews

Rhan o'r gyfres Tonfedd Heddiw gan Barddas yw cyfrol gyntaf Tegwen Bruce-Deans ac mae'n berl o gyfrol - bychan, cyflawn a pherffaith o ran ei maint. Enillodd Tegwen gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri gyda'r dilyniant ardderchog o gerddi 'Rhwng Dau Le', sy'n ymddangos yn y gyfrol hon. Ganwyd Tegwen yn Llundain a'i magu yn Sir Faesyfed ar aelwyd ddi-Gymraeg. Cafodd ei harwain at y Gymraeg yn yr ysgol a rhannu'r daith tuag at yr iaith gyda'i thad. Roedd medru mynegi ei hun yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddyhead dwfn ynddi. Dywed yn ei rhagair: 'Roeddwn i eisiau hangofyrs yn Gymraeg ... Roeddwn i eisiau blasu bywyd yn Gymraeg, cydio ynddo a'm dwy law a'i sawru hyd at y briwsionyn olaf un.' Gallaf ddweud, heb yr un amheuaeth, fod Tegwen wedi llwyddo i ddala rhin y Gymraeg yn ei barddoniaeth hi. Yn ei cherdd 'Ymbarel' i'w thad mae'n defnyddio delwedd yr ymbarel i gyfleu'r Gymraeg fel man i gysgodi rhag yr elfennau: 'A dyna lle'r oedden ni, / yn rhannu ymbarel mewn storm, / dafnau'n disgyn fel nodau piano / a'n geiriau ni mewn cyngerdd, / yn uno dan gawod o law ... Ac mae'n fy nharo i'n sydyn: nad oes 'na fyth ddigon o le / i ddau dan ymbarel ...' Mae Tegwen bellach yn byw ym Mangor ar ol graddio o'r brifysgol yno ac mae ol ei thaith drwy Gymru a'r Gymraeg yn ei cherddi, sy'n beth pert ofnadwy. Cyfrol sy'n rhannu ei cherddi gyda ni yw hon; does dim gweiddi na phregethu yma, maent yn ymestyn allan o'r dudalen yn ofalus ond bwriadol ac yn cyrraedd at y galon. Ie, bardd ifanc yw Tegwen, ond eto mae'n aeddfed a llawn ei mynegiant, mae ganddi arddull hyfryd o uniongyrchol wrth gyfleu teimladau a phrofiadau, ac mae ei gwaith hi'n hynod ddynol, yn annwyl ac yn dyner hefyd. Efallai mai bardd yn ei hugeiniau yw hi ar hyn o bryd ond y mae'n medru crisialu sut beth yw hi i fod yn fyw heddiw i'r dim, ac wrth gwrs mae byw heddiw'n brofiad oesol, yndyw e? Eto i gyd, mae'n dangos ei bod hi'n deall pethau nad ydynt o'r byd hwn chwaith. Gall gydio yn y pethau hynny na ellid eu gweld, deall pethau nad oes esboniad arnynt. Mae ganddi lygad bardd. Ymhlith y pynciau a drafodir y mae magwraeth a dylanwadau, glasoed a chyfnod coleg, cyfeillgarwch, cariad a theulu, rhyfel a pherthyn - a'r cyfan yn cael ei glymu ynghyd a darluniau du a gwyn hardd o waith yr artist talentog Freya Richards, sy'n ffrind ysgol i Tegwen yn Sir Faesyfed. Y mae Tegwen hefyd yn artist, oherwydd hi ddarluniodd y clawr seithliw trawiadol, a'r dyfyniad ar gefn y clawr yn ategu'r cysyniad gweledol: 'Achos beth yw gwawrio / heb yr holl liwiau, wedi'r cyfan?' Yn union. Cyfrol delynegol yw Gwawrio, ac mae'r geiriau'n canu oddi ar y dudalen. Mae'r bardd yn gweld pethau a chlywed pethau, yn teimlo'i ffordd drwy ei hemosiynau ac yn ein cymryd ni gyda hi bob cam o'r ffordd. Yn y gerdd 'Garn' dywed: 'Tyrd ar y ffordd hir adra gyda fi / hyd lonydd fy mebyd a'm henaint, / cerddwn yn nhraed ein sanau, / ein gwadnau'n brifo, gan ysu am yr hyn a fu, / a rhyw ddydd, mi neidia i i'r ffrwd newydd / i waltsio o'r diwedd a chymhlethdod yfory.' Mae Tegwen yn ymwybodol o amser, o ddechrau ac o ddiwedd hefyd. Yn ei cherdd 'Gadael' dywed: 'Does 'na'm byd 'swn i'n licio'n fwy / na phlygu cornel ar dudalen bywyd, / crychu'r meingefn nes bod y llyfr / wastad ar agor yn y fan yma ...' sy'n bendant yn atseinio'r ffordd y mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n meddwl am bethau. Dyma gyfrol i fynd gyda chi ar eich taith i ble bynnag - dydy hi ddim yn pwyso llawer. Caiff lithro i'ch poced yn hawdd neu eistedd yn eich bag. Pan gewch chi funud, mi gydiwch ynddi, agor y clawr a chael eich swyno a'ch synnu gan waith y bardd ifanc, gloyw ei mynegiant - wy'n addo. Ac mi fyddwch chi'n falch i chi fynd a hi gyda chi. Does dim dau na chlywn ni eto gan Tegwen, a bydd ei gwaith hi ond yn dyfnhau a chyfoethogi wrth iddi fagu profiad bywyd. Yn y cyfamser, mwynhewch Gwawrio. -- Elinor Wyn Reynolds @ www.gwales.com

Additional information

NGR9781911584773
9781911584773
1911584774
Gwawrio by Tegwen Bruce-Deans
New
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
2023-06-21
64
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a new book - be the first to read this copy. With untouched pages and a perfect binding, your brand new copy is ready to be opened for the first time

Customer Reviews - Gwawrio