Maen anodd bod yn fachgen yn eich arddegau cynnar. Maer byd yn llawn merched syn eich anwybyddu, bwlis ysgol, rhieni syn camddeall popeth a brodyr syn eich cael chi i drwbwl. Dyw bywyd ddim yn deg! Mae mam Greg Heffley yn ei annog i gadw dyddlyfr (nid dyddiadur dyw hwnnw ddim yn cwl, maen debyg) ac mi ydyn nin dilyn hynt a helynt Greg ai gydnabod trwy gydol blwyddyn ysgol. Cawn hanes yr obsesiwn reslo syn gafael yn ei gyd-ddisgyblion, ei berthynas gyfnewidiol dai ffrind gorau Roli ai ymdrech i osgoi gwneud ffwl ohonoi hun yn chwarae rhan coeden yn y cyngerdd Nadolig. Maer llyfr fel petai wedi ei ysgrifennu mewn llawysgrifen gyda chartwnau ar bob tudalen i ychwanegu at y naratif. Maer llyfr yn llwyddo i gyfleu perspectif bachgen lle mae pethau bach yn eithriadol o bwysig, a'r pethau hynny'n gallu creu rhwystredigaeth. Mae yma hiwmor anfwriadol wrth iddo siarad yn uniongyrchol r darllenwyr, ac maer gyfrol yn symud yn gyflym trwy straeon sydd weithiau yn eithaf swreal, ond sydd yn bendant yn ein diddanu. Cerian Arianrhod Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru