A new Welsh adaptation of The Famous Five series. An original Enid Blyton short story with brand-new full colour illustrations. Twm spots some suspicious-looking people on a train. What is so unusual about one of the passengers? How will the 'Famous Five' - y 'Pump Prysur' solve this mystery? A perfect introduction for new readers in Welsh, and an exciting way to enjoy classic tales in Welsh for Enid Blyton fans. It's so terribly hot, the Five are having a lazy afternoon ... but the gang don't get the peace and quiet they imagined! What are the men on the motorbikes up to? Can they be stopped? -- Cyhoeddwr: Atebol
Oes yna ffasiwn beth a phnawn diog yn hanes y pump yma, dywedwch? Go brin. Yma, mae pum cymeriad yr awdures enwog Enid Blyton yn ceisio eu gorau glas i gael saib fach rhag yr holl anturiaethau, ond yn wir mae dynion drwg ar droed a chyn pen dim, maen nhw yn ei chanol hi unwaith eto. Dydi hon, sydd yn un o straeon byrion y Pump Prysur, ddim yn mynd i'ch siomi. O ddarllen y penodau cyntaf, bron nad ydyn ni'n synnu pa mor dawel ydi pethau i'r criw, ond cyn gynted ag y mae Twm y ci yn penderfynu mynd ar berwyl i ddal cwningod, mae'n eithaf amlwg na fydd hi'n ddiwrnod tawel o gwbl. Daw swn moto-beic i darfu ar bawb ac yn o fuan, mae dau ddyn drwg ar ben coeden ... beth yn y byd mawr maen nhw wedi'i guddio yn y canghennau? Wrth ddarllen rydyn ni ar bigau'r drain eisiau gwybod beth ar y ddaear sy'n digwydd. Mae'r addasiad Cymraeg yn glyfar a doniol ar brydiau, a hyn yn ychwanegu at apel y gyfres. Dyma lyfr, yn sicr, i'w ddarllen ar bnawn diog, gan obeithio bod neb am ddod i'ch 'styrbio chi, fel y digwyddodd i'r pum anturus yma! -- Llinos Griffin @ www.gwales.com