Cart
Free Shipping in the UK
Proud to be B-Corp

Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932 Bleddyn Owen Huws

Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932 By Bleddyn Owen Huws

Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932 by Bleddyn Owen Huws


£6.90
New RRP £9.95
Condition - Very Good
Only 1 left

Summary

A collection of 95 letters between Carneddog a Gwallter Llyfni. The correspondence contains a colourful and amusing insight into the literary life of rural Wales between the two World Wars from the viewpoint of two literary men. The state of Welsh culture at the time is discussed fully in rich and vibrant Welsh.

Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932 Summary

Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932 by Bleddyn Owen Huws

A collection of 95 letters between Carneddog a Gwallter Llyfni. The correspondence contains a colourful and amusing insight into the literary life of rural Wales between the two World Wars from the viewpoint of two literary men. The state of Welsh culture at the time is discussed fully in rich and vibrant Welsh.

Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932 Reviews

Bydd llawer un ohonoch yn gyfarwydd a llun enwog Geoff Charles, a dynnwyd ar gyfer Y Cymro yn 1945. Ynddo gwelir Carneddog a'i wraig Catrin yn edrych draw dros Eryri, a hwythau ar fin gadael eu hen gartref i fynd i fyw at y mab yng nghanolbarth Lloegr. Llun yn y cywair lleddf ydy o - yn son yn ddieiriau am gyfnod yn darfod. Mae'r gyfrol hon yn agor drws i ni ar y cyfnod hwnnw, ar y newidiadau pell-gyrhaeddol a oedd yn sigo'r diwylliant gwerinol cyfoethog a gynrychiolid gan ddau lythyrwr hynod o ddiddorol. Casgliad o lythyrau a geir yma, sef gohebiaeth Carneddog a chymeriad unigryw arall, Gwallter Llyfni (Walter Sylvanus Jones). Roedd y ddau yn ohebwyr cyson yn y wasg Gymraeg, a Charneddog hefyd yn ysgrifennu colofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg. Roedd y ddau hefyd yn feirdd, a chyhoeddwyd dwy gyfrol o waith Carneddog, ond methodd Gwallter Llyfni a chael cyhoeddi llyfr o'i gerddi, er siom ddybryd iddo. Bu'r ddau yn amlwg ym myd eisteddfodau a chyrddau llenyddol bro Eryri (gyda Gwallter yn ganwr o fri), ac roedd ganddynt farn bendant ar faterion y dydd. Ysgrifennwyd y llythyrau rhwng 1926 a 1932; bu Gwallter farw yn 49 mlwydd oed yn 1932. Yn rhyfeddol, cadwodd y naill bob un o'r llythyrau a dderbyniodd oddi wrth y llall, a sonient yn gellweirus am gyflwyno'r llythyrau i'r Llyfrgell Genedlaethol ryw ddydd: 'bydd yn gasgliad hafal i lythyrau'r Morrisiaid', meddai Carneddog. Yn y diwedd, diogelwyd llythyrau Carneddog at Gwallter yn Archif Prifysgol Bangor, a llythyrau Gwallter at Carneddog yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Camp y golygydd, Bleddyn Owen Huws, fu dod a'r ddau gasgliad ynghyd a rhoi inni'r ohebiaeth gyfan o 95 llythyr wedi ei golygu'n gelfydd a gwybodus. Wrth ei ddarllen, mae'r casgliad yn datblygu fel stori, yn dadlennu dau gymeriad nodedig ac yn rhoi portread o gyfnod arbennig i ni. Cawn y llon a'r lleddf wrth i'r ddau lythyrwr son am eu gorchestion a'u trafferthion, am bob uchelgais a siom. Gwelwn graffter Gwallter fel beirniad llwyfan, darllenwn am ei deithio hwnt ac yma ac am ei sylwadau ar wleidyddiaeth ei ddydd. Roedd Gwallter yn gefnogwr brwd i'r Blaid Lafur ond eto'n cydymdeimlo'n ddwys a Phlaid Cymru, a fu'n ymladd ei hymgyrch etholiadol gyntaf yn sir Gaernarfon yn 1929. Sonia Carneddog am lafur didostur ffermio ar fynyddoedd Eryri rhwng y ddau Ryfel Byd, cyfnod o ddirwasgiad llym ym myd amaeth: gwelwn ef yn wynebu drycin y gaeaf, yn colli wyn, yn gwneud colled wrth werthu ei wartheg, ac yn poeni am fethu a chyhoeddi ei waith (fel y gwnai Gwallter, yntau). Er hyn, mae'r llythyrau hefyd yn llawn hiwmor. Hoffai'r ddau ohebydd dynnu coes, ond roedd cellwair Carneddog dipyn yn fwy crafog. Byddai'n herio Gwallter (a oedd yn hen lanc) am gariadon dychmygol y clywsai glecs amdanynt. Pryderai Catrin, gwraig Carneddog, fod ei gwr yn mynd dros ben llestri weithiau wrth dynnu coes! Ceir dadansoddiad treiddgar, yn rhagymadrodd y golygydd, o arwyddocad yr ohebiaeth; cawn gefndir y cyfnod a hanes y ddau wron, yn ogystal a nodiadau defnyddiol dros ben am y bobl a'r digwyddiadau y cyfeiria'r ddau atynt. Cawn flas hefyd ar awen y ddau gyfaill mewn nifer o atodiadau. Mae hynny i'w groesawu - ni fu cyfrolau Carneddog mewn print ers degawdau, a dim ond mewn cyfnodolion y gwelwyd gwaith Gwallter. Ceir lluniau cyfoes, hefyd, yn cynnwys llun nodedig Geoff Charles. Rhoes y golygydd deitl addas i'r gyfrol hon. Do, fe ddarfu llawer o'r gweithgarwch diwylliannol a ddisgrifir yma ac mae'r byd a adnabu Carneddog a Gwallter Llyfni wedi ei drawsnewid. Ond mae yna fwrlwm o hyd yn Eryri, a thalwrn, cerdd a drama eto'n fyw. Mae drycin y gaeaf yr un mor arw yno ag erioed, a phobl yr un mor bryderus am y dyfodol ag oedden nhw bedwar ugain mlynedd yn ol. -- Bob Morris @ www.gwales.com

Additional information

GOR005959285
9781906396329
1906396329
Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932 by Bleddyn Owen Huws
Used - Very Good
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
20101028
200
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932