Cart
Free Shipping in Australia
Proud to be B-Corp

Anti Afiach David Walliams

Anti Afiach By David Walliams

Anti Afiach by David Walliams


$17.49
Condition - Very Good
Only 4 left

Summary

Addasiad Manon Steffan Ros o Awful Auntie gan David Walliams. Ein addasiad diweddaraf yn ein cyfres o lyfrau poblogaidd gan yr awdur David Walliams. Llyfr anturus a doniol am Swyn Plas y Sarnau, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Sarnau... OND mae un peth sy'n ceisio rhwystro hyn rhag digwydd, sef Anti Afiach a'i thylluan anferth!

Anti Afiach Summary

Anti Afiach by David Walliams

Addasiad Manon Steffan Ros o Awful Auntie gan David Walliams. Ein addasiad diweddaraf yn ein cyfres o lyfrau poblogaidd gan yr awdur David Walliams. Llyfr anturus a doniol am Swyn Plas y Sarnau, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Sarnau... OND mae un peth sy'n ceisio rhwystro hyn rhag digwydd, sef Anti Afiach a'i thylluan anferth!

Anti Afiach Reviews

Mae nofelau David Walliams fel ffisig. O neiniau dewr yn dwyn tlysau'r Frenhines i ddeintyddion dieflig, mae ei lyfrau wastad yn gwneud i ti chwerthin yn uchel. Ond er mor ddigrif a gwallgof ydi'r digwyddiadau ynddynt, mae rhywbeth yn hynod gyfarwydd, cynnes a theimladwy ym mhob un o'r llyfrau hyn, a dydi Anti Afiach ddim yn eithriad. Mae'r eneth fach, Swyn, sy'n byw mewn plasty crand, yn deffro un bore, ac yn cael newyddion drwg gan ei modryb sinistr, Anti Alwen. Heb ddatgelu gormod o'r stori, dywed Alwen wrth ei nith ei bod hi wedi bod yn cysgu am amser maith yn dilyn damwain car, a bod ei rhieni wedi diflannu! Wrth i Swyn druan fynd at wraidd y mater a phethau'n bell o daro deuddeg, mae hi'n darganfod sawl ffaith syfrdanol sy'n siwr o ddod a gwen i'r wyneb a dagrau i'r llygaid yr un pryd. Mae hon yn antur o'r dechrau i'r diwedd, ac mae stamp David Walliams arni drwyddi draw - y chwerthin, y cyffro, y cymeriadau hoffus a'r rhai sydd ddim mor hoffus, y swynau a'r bustachu, ond hefyd y rhannau teimladwy ac annwyl. Mae'r stori yn llawn troeon trwstan annisgwyl, a thrwy'r cyfan rydyn ni'n ysu i'r cymeriadau ymgyrraedd at y gwir, gan gynnwys Wagner y dylluan glyfar! Fel yn y llyfrau eraill, mae lluniau penigamp Tony Ross yn ychwanegu at y cyffro a'r hiwmor. Dwi wedi darllen a mwynhau pob addasiad Cymraeg o lyfrau'r awdur anhygoel hwn. Nid yw'n annhebyg i Roald Dahl yn ei dalent dweud stori dda, ac mae'r addasiadau i gyd yn gwneud cyfiawnder a'i ddawn ac yn siwr o ddifyrru'r darllenwyr iau. -- Llinos Griffin @ www.gwales.com

Additional information

GOR009932285
9781910574683
1910574686
Anti Afiach by David Walliams
Used - Very Good
Paperback
Atebol
20170224
408
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
This is a used book - there is no escaping the fact it has been read by someone else and it will show signs of wear and previous use. Overall we expect it to be in very good condition, but if you are not entirely satisfied please get in touch with us

Customer Reviews - Anti Afiach