Cart
Free Shipping in Australia
Proud to be B-Corp

Llafargan Aneirin Karadog

Llafargan By Aneirin Karadog

Llafargan by Aneirin Karadog


$11.99
Condition - Like New
Only 1 left

Summary

Llafargan is a comprehensive collection of poems in both strict and free metres by chaired bard Aneirin Karadog, the poems being the fruits of the poet's studies into the relationship between the poet, his medium and audience.

Llafargan Summary

Llafargan by Aneirin Karadog

Llafargan is a comprehensive collection of poems in both strict and free metres by chaired bard Aneirin Karadog, the poems being the fruits of the poet's studies into the relationship between the poet, his medium and audience.

Llafargan Reviews

Mae Aneirin Karadog yn un o'n beirdd cyfoes mwyaf cynhyrchiol a chyhoeddus. Ac yntau'n amlwg wrth ei fodd yn perfformio ar lwyfan, ar deledu a hefyd ar y podlediad Clera, diddorol - ond nid gormod o syndod chwaith - yw darllen yn ei ragair i'w drydedd gyfrol fod pob cerdd yn Llafargan wedi cael ei datgan yn uchel ganddo cyn ei gosod yn derfynol ar y ddalen. Ffrwyth tair blynedd o ymchwil am ddoethuriaeth yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe yw'r gyfrol. Dywed iddo gynhyrchu dros ddau gant o gerddi yn ystod y cyfnod hwnnw, a cheir bron i gant rhwng y cloriau hyn. Mae'r bardd yn cydnabod fod ambell gerdd yn 'colli ei hapel' i'r bardd heb iddo ei pherfformio ar lafar, ond cred hefyd fod cerddi eraill yn gweithio'n well ar bapur yn unig. Ac mae'n rhoi 'rhwydd hynt' i ni'r darllenwyr wneud a fynnwn - llafarganu ei gynnyrch neu fyfyrio'n dawel uwch ei ben. Dim ond inni ddarllen y cywydd hwyliog 'Robin goch arbennig iawn' am ddiffyg sgiliau DIY y bardd, gallwn glywed ei lais yn ei ddatgan fel cloch: 'Mi a harthiais a morthwyl,/tolciais a honnais gael hwyl ...' Felly hefyd yn y cywydd chwerwfelys 'Kenavo Eurig' i Eurig Salisbury wrth i Aneirin a'i deulu gychwyn am Lydaw lle buont yn byw am flwyddyn: 'Drwy'r curlaw o Lydaw oleuedig,/carca di Walia drwy'r oes gythreulig;/bydd wyliwr, gwarchodwr ei hychydig/gywyddau yn y llannau pellennig.' Gwn hefyd i'w berfformiad o'r gerdd rydd 'Calon [stori wir]' ar y cyd a'i ferch Siriol lenwi sawl llygad yn ddiweddar. Un o ddileits Aneirin Karadog yw cleciadau cynganeddol i bwrpas, fel yn y cwpled hwn o'r cywydd 'Ysgwrn ein cynhysgaeth' - 'Blast. Bois ar hast dros rostir,/ar y gwynt yn rhegi hir.' Mae hefyd yn giamstar ar greu trawiadau newydd. Pwy all beidio a gwenu'n werthfawrogol wrth ddarllen y llinellau hyn i'w diwtor, y Prifardd Alan Llwyd? - 'Yn d'ymyl mae dy emwaith,/traw'r gan, deiamwntiau'r gwaith,/ ag Alaniaeth, yn sgleinio ...' Mae'r elfen hon o ganu cymdeithasol yn wythien gref yn y gyfrol, fel ymwybyddiaeth Aneirin o'i filltir sgwar ym Mhontyberem, ac mae'n llongyfarch ei gyd-feirdd ar eu hamrywiol lwyddiannau, yn dathlu priodas ac yn cofio sawl un a gollwyd. Er cystal sawl cywydd ac englyn, yn ei ddilyniant o gerddi rhydd i'w ddiweddar gyfnither, Cathryn Anne Rees, fu farw yn 35 oed, y gwelwn y cyfuniad hwnnw o emosiwn a chrefft sy'n ein sodro yn ein hunfan: 'A gwn, gwn yn iawn/dy fod ti gyda ni yng nghalon fy merch/am iddi hi dy hudo di yno'n glyd./Ac fe wyddost nad yw marwolaeth/yn ddim mwy na chyfle gwell/i ddawnsio'n rhydd.' Dilyniant y bardd o gerddi caeth 'Ffiniau', enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, sy'n agor y gyfrol. Yn yr un Eisteddfod, ef a wahoddwyd i ymateb i nifer o weithiau yn y Lle Celf; o blith y cerddi hynny mae'r gyfres englynion 'Yn ol i laethdy' ac 'Ysbrydion' yn sicr yn uchafbwyntiau, a'r lluniau a osodwyd gyferbyn a'r cerddi i gyd yn cyfrannu at ein gwerthfawrogiad ohonynt. Yn wir mae'r cyfuniad o ddiwyg cyffredinol Llafargan a'i chynnwys yn wledd i'r llygad, y glust a'r meddwl. -- Annes Glynn @ www.gwales.com

Additional information

GOR013541860
9781911584230
1911584235
Llafargan by Aneirin Karadog
Used - Like New
Paperback
Cyhoeddiadau Barddas
20190705
128
N/A
Book picture is for illustrative purposes only, actual binding, cover or edition may vary.
The book has been read, but looks new. The book cover has no visible wear, and the dust jacket is included if applicable. No missing or damaged pages, no tears, possible very minimal creasing, no underlining or highlighting of text, and no writing in the margins

Customer Reviews - Llafargan