Addasiad o nofel The Owl Service gan Alan Garner yw Llestri'r Dylluan. Cyhoeddwyd y hi yn gyntaf yn 1967 ac ar y pryd, cai ei hystyried yn chwyldroadol ym myd llenyddiaeth plant oherwydd y defnydd o chwedl, ffantasi a gwyddonias. Yn wir, enillodd y nofel wobr nodedig y Fedal Carnegie a gwobr ffuglen orau'r Guardian. Cymaint oedd ei phoblogrwydd fel y ffilmiwyd cyfres deledu yn seiliedig ar y stori yn 1969, a chomisiynwyd drama radio yn 2000. Rhyfedd ar un olwg, felly, ei bod wedi cymryd hanner can mlynedd cyn ei haddasu i'r Gymraeg oherwydd bod y cysylltiad a Chymru mor ganolog i'r nofel. Mae'r stori'n seiliedig ar chwedl Blodeuwedd ac mae nodyn gan yr awdur yng nghefn y gyfrol hon yn esbonio pam ei fod wedi ei gyfareddu gan yr hen stori. Mae hanes creu'r stori'n ddigon rhyfedd ynddi ei hun a does dim rhyfedd fod Alan Garner wedi teimlo rhyw atyniad at yr hanes. Mae'r stori'n troi o gwmpas tri pherson ifanc yn eu harddegau. Mae Alison a Roger yn hanner brawd a chwaer sy'n treulio cyfnodau o wyliau estynedig mewn hen blasty mewn cwm anghysbell yn ardal Llanymawddwy. Saeson ydyn nhw, ond Cymro ydy Gwyn, mab y 'forwyn' ac mae'r gwahaniaethau yng nghefndiroedd y ddau ddiwylliant yn achosi tyndra yn ystod y nofel. Mae agweddau trahaus y Saeson tuag at y Cymry lleol yn cael sylw yma, ynghyd ag atgasedd y Cymry at y Saeson cyfoethog sy'n symud i gefn gwlad Cymru. Ceir cyfeiriad at ddymuniad Gwyn i ddysgu Saesneg er mwyn dianc o'r cwm a 'dod ymlaen yn y byd', ac mae ymateb Roger i hynny'n dangos y dirywio a fu yn eu perthynas nhw yn ystod y gwyliau. Mae cefndiroedd y plant yn gymhleth ac yn ychwanegu at y diffyg dealltwriaeth sy'n aml yn codi rhyngddynt wrth i'r stori ddatblygu. Yn ogystal a'r tensiynau rhwng y gwahanol gefndiroedd a'r gwahanol ddiwylliannau, mae'r stori'n tynnu'n drwm ar y tensiynau sy'n codi wrth i'r tri cymeriad ddechrau troi'n oedolion, a'r gwahanol emosiynau sydd ynghlwm wrth dyfu i fyny. Roedd Alan Garner wedi defnyddio llawer o ddeialog i symud y stori yn ei blaen yn y nofel wreiddiol, ac mae nodyn gan Bethan Gwanas yng nghefn y gyfrol yn cyfaddef nad oedd cyfieithu'r gwreiddiol yn hawdd o gwbl. Roedd dewis sut oedd y cymeriadau i siarad efo'i gilydd wedi bod yn heriol iddi, ac efallai nad yw 'llais' bob cymeriad yn llwyddo yn hynny o beth. I'r rhai ohonoch sy'n hoffi diweddglo twt a thaclus, efallai nad hon yw'r gyfrol i chi ac fe fydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd ymateb pobl ifanc Cymru heddiw i'r gyfrol arloesol hon. -- Hefin Jones @ www.gwales.com