Ychwanegiad newydd i gyfres Fy Amser Stori Cyntaf a gyhoeddir gan gwmni Rily yw Y Tri Bwch Gafr, addasiad Non Tudur o waith Ronnie Randall, gyda'r darluniau gan Richard Merritt. Llyfrau i'w darllen yn uchel a'u rhannu yw'r rhain, fel yr adroddir ar y clawr. Hen stori yn deillio o Norwy yr 1840au yw hon, sy'n siwr o fod yn gyfarwydd i'r rhieni a'r neiniau a'r teidiau, neu'r athrawon fydd yn darllen y stori i'r plantos. Ceir tair gafr - un fawr, un ganolig ac un fechan - ac mae ellyll erchyll yn eu rhwystro rhag croesi pont tuag at ddol maent yn ysu i'w chyrraedd i gael bwyta'r glaswellt hyfryd, hir sydd yno. Drwy feddwl yn gyfrwys a manteisio ar natur farus yr ellyll mae'r tri bwch gafr yn llwyddo i chwarae tric ar yr ellyll a'i orchfygu. Fel y rhai blaenorol yn y gyfres, cyfrol fechan clawr caled yw hon, gyda'r testun yn Gymraeg yn unig a'r lluniau'n lliwgar a doniol. Ar y tudalennau olaf ceir dau bos - darganfod y gwahaniaethau rhwng dau lun a drysfa syml. Mae'r stori'n werth ei darllen dim ond i gael blasu'r geiriau 'ellyll erchyll' a chlywed swn y geifr yn 'clic clecio', ac mae'r addasiad yn darllen fel testun gwreiddiol Cymraeg. -- Gwenan Mared @ www.gwales.com